Galwad Agored ar gyfer Portreadau
Ydych chi’n ffotograffydd sydd ar ddechrau eich gyrfa? Yn chwilio am y cyfle nesaf i ddatblygu eich gwaith?
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwahodd cynigion ar gyfer cyfres o 10 portread ffotograffig sy’n cynrychioli pobl Cymru heddiw.
Cyfle cyffrous yw hwn i ddatblygu eich gwaith dan fentoriaeth yr artistiaid Denver Shai a Taiye Omokore, sydd â gwaith yn rhan o’r Casgliad Cenedlaethol.
OMOKORE, Taiye, Dyfodol Du ©
Taiye Omokore / Llyfrgell Genedlaethol CymruSHAI, Denver, Legacy ©
Denver Shai / The National Library of WalesY Comisiwn
Mae arddangosfeydd diweddara’r Llyfrgell wedi dathlu’r portreadau a ddaw o berthynas agos rhwng ffotograffydd a’u model neu bwnc, gan adrodd hanesion lleol a chenedlaethol. Yn arddangosfa Byd Bach Aber y llynedd, roedd portreadau Bruce Cardwell yn dal unigolrwydd a bywiogrwydd pobl Aberystwyth. Mae’r arddangosfa Portread a Phŵer sy’n rhedeg ar hyn o bryd yn arddangos portreadau ffotograffig gan artistiaid sy’n ceisio tynnu sylw at ac ymchwilio I faterion cymdeithasol — o hiliaeth i glefydau prin, gordewdra a hunan-niweidio, i heneiddio. Wrth bortreadu pobl y mae eu straeon yn aml wedi’u hanwybyddu yn y Gymru gyfoes, mae’r portreadau hyn yn amlygu unigolrwydd, gwydnwch a chreadigrwydd y modelau, ac mae’r gweithiau’n gwneud cyfraniad amhrisiadwy at gasgliad sy’n tyfu i gynrychioli’r genedl yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod.
Pwy hoffech chi ei weld yn y Casgliad Cenedlaethol? Sut fyddwch chi’n adrodd eu stori?
Rydym ni am gomisiynu cyfres o bortreadau ffotograffig o unigolion neu grwpiau, ynghyd â chyd-destun ysgrifenedig o 200–300 o eiriau, i ychwanegu at stori gasgliadol pobl sy’n byw yng Nghymru heddiw.
O’r ceisiadau a dderbynnir, bydd dau yn cael eu dewis gan staff y Llyfrgell a’r artistiaid‑ mentoriaid: Denver Shai a Taiye Omokore. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wedyn yn datblygu eu comisiwn dan fentoriaeth ac yn derbyn ffi o £1250 ar ôl cyflwyno’r gwaith ddechrau Mehefin.
Bydd y comisiynau’n cael eu cyhoeddi ar wefan CELF ac yn dod yn rhan o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed lleisiau’r rhai sy’n datblygu eu sgiliau ffotograffiaeth, neu sydd ar ddechrau eu gyrfa, ond nid oes angen unrhyw gefndir proffesiynol mewn celf i wneud cais.
Y broses ymgeisio
Anfonwch eich cynnig drwy e-bost at phoebe.murray-hobbs@llyfrgell.cymru a chynnwys y canlynol:
- - Amlinelliad o gysyniad eich project, gan gynnwys pwy yr hoffech eu ffotograffio a pham. Gall hyn fod yn destun o hyd at 200 o eiriau, neu ychydig o ddelweddau bras gyda nodiadau – beth bynnag sy’n teimlo’n fwyaf addas i gyflwyno’ch syniad.
- - Enghreifftiau o waith blaenorol neu ddolenni i wefannau perthnasol lle gellir gweld y gwaith, os yn bosibl.
- - Eich enw a’ch rhagenwau dewisol, eich cyfeiriad cartref, manylion cyswllt a pharagraff byr amdanoch eich hun.
Dyddiad cau
Cyflwynwch eich amlinelliad dim hwyrach na 5pm, 3 Ebrill 2026..
Byddwn ni’n cysylltu gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus o fewn pythefnos i’r dyddiad cau i drafod y comisiwn a llunio amserlen. Rhaid cwblhau’r gwaith terfynol erbyn 12 Mehefin 2026.
Os ydych yn ystyried cyflwyno cynnig ac mae gennych gwestiynau pellach, gofynion mynediad neu geisiadau eraill, cysylltwch â phoebe.murray-hobbs@llyfrgell.cymru drwy e-bost.
Ynghylch y mentoriaid
Taiye Omokore
Mae Taiye Omokoreyn ffotograffydd, yn wneuthurwr ffilmiau ac yn gyfarwyddwr creadigol o Nigeria sy’n byw rhwng Caerdydd. Mae ei waith yn archwilio hunaniaeth ddiwylliannol, ymfudo a chynrychiolaeth drwy bortreadau a storïo gweledol, gan ganolbwyntio’n aml ar leisiau Du a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru ac ymhellach. Mae ei ffotograffiaeth wedi ymddangos ar lwyfannau gan gynnwys Vogue Greece, Dazed, y BBC, Art UK, ymhlith nifer eraill. Cyrhaeddodd ei waith restr fer Gwobrau Ffotograffiaeth y Byd Sony ac fe’i harddangoswyd yn Somerset House, yn ogystal ag mewn arddangosfeydd eraill yn Ffotogallery, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a’r Pinakothek der Moderne ym Munich.
Mae ei waith hefyd yn ymestyn i fyd ffilm, gan gynnwys y ffilm fer Unsent Letter a gafodd gefnogaeth gan y BFI, ynghyd â phrosiectau mawr mewn storïo gweledol fel Cymru Unleashed gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru mewn cydweithrediad ag Afrowales, a’r project treftadaeth Kumbukumbu gyda SSAP Wales sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica. Yn 2023, enwyd ef yn Artist Gweledol y Flwyddyn yng Ngwobrau Hanes Du Cymru ac yn ddiweddarach cafodd ei gydnabod fel Dawn Byd-eang ym maes y celfyddydau gweledol.
Mae Taiye yn sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr Golygyddol KLAT Magazine, platfform sy’n ymroddedig i amlygu creadigwyr sy’n dod i’r amlwg ac adeiladu cymuned drwy adrodd straeon. Mae ei fonograff cyntaf, My Story in Red, yn archwilio hunaniaeth, treftadaeth a pherthyn rhwng Nigeria a Chymru. Ynghyd â’i ymarfer creadigol, mae’n mentora artistiaid ar ddechrau eu gyrfa ac yn datblygu gwaith sy’n ehangu cynrychiolaeth o fewn diwylliant gweledol cyfoes.
Denver Shai
Mae Denver Shai yn ffotograffydd ac yn artist gweledol sy’n canolbwyntio ei hymarfer ar y ffigwr dynol. Enillodd radd BA (Anrh.) mewn Celf Gain o Brifysgol Aberystwyth, gan arbenigo mewn ffotograffiaeth ffilm.
Yn 2023, cafodd Denver ei chynnwys ar restr fer Gwobr Bortread Ffotograffiaeth Taylor Wessing am Out of the Dark, ac mae’n gyfrannwr dan gomisiwn ar gyfer arddangosfa Portread a Phŵer Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ei hoff gamera yw model fformat canolig sy’n defnyddio ffilm, ei ffefryn yn benodol ar gyfer portreadau noeth.
Ar hyn o bryd, mae Denver yn datblygu ei chyfres bortreadau nesaf, sy’n canolbwyntio ar y corff gwrywaidd.
Mae'r comisiwn hwn yn bosib diolch i CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru.