Mae Roots and Rivets: Responses to Nature and Industry yn dwyn ynghyd weithiau a ddatblygwyd mewn ymateb i ddau ddarlun gwreiddiol: Pwll Llygredig yn y Maendy gan Jack Crabtree a Steelworks, Ebbw Vale gan Nan Youngman. Mae un yn darlunio tirwedd naturiol sy’n cael ei roi mewn perygl, y llall yn dangos safle diwydiannol gweithgynhyrchu a llafur. Mae'r arddangosfa hon yn archwilio’r ffordd y mae artistiaid yn troi'r amgylcheddau cyferbyniol hyn yn ffurfiau newydd, gan greu deialog rhwng twf a gweithgynhyrchu, natur fregus a grym.
Gweithdy: Creu Tirwedd Fach
Ar ddydd Sadwrn yr 28ain o Chwefror, dewch i weithdy galw heibio o 10:00 – 12:00 ac 13:00 – 15:00. Ymunwch â'r artist Sarah Goodey i greu tirwedd fach y gallwch fynd â hi adref gyda chi, neu gyfrannu at y gwaith celf sy'n cael ei arddangos. Gan ddefnyddio papurau, gwrthrychau a ddarganfuwyd, collage a phrint, gallwch wneud unrhyw beth y gallwch chi ei ddychmygu - gan edrych ymlaen neu yn ôl! Yn addas ar gyfer oedolion a phlant 7 oed ac yn hŷn, rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.
MaeRoots and Rivets: Responses to Nature yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd o 13 Chwefror - 21 Mawrth 2026. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd.