Ers dros 45 o flynyddoedd mae Ymddiriedolaeth P&O Makower wedi comisiynu gwrthrychau arian o bwys, i’w benthyg am gyfnod hir i amgueddfeydd cenedlaethol ledled y DG gan gynnwys y Victoria and Albert Museum, yr Ashmolean, National Museums Scotland ac Amgueddfa Cymru.
Symudodd y casgliad gwreiddiol, yn cynnwys deg darn, i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2006, o’i gartref blaenorol gyda’r Cyngor Crefftau. Ers hynny, cafodd ddarnau newydd eu comisiynu a’u hychwanegu gan y gwneuthurwyr Sarah Denney (2007/08), Theresa Ngyuen (2009/10), Kevin Grey (2011/12), Adi Toch (2013/14), Claire Malet (2016/17) a’r mwyaf diweddar gan William Romeril am ei ddarn The Royal Game of Urm…?, a gomisiynwyd yn 2024 a’i dderbyn yn 2025.
Dyma'r tro cyntaf i'r holl gasgliad gael ei grynhoi mewn un gofod.
Mae Casgliad Ymddiriedolaeth P&O Makower gan Amgueddfa Cymru yng Nghanolfan Grefft Rhuthun o 28 Mawrth - 14 Mehefin 2026. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Canolfan Grefft Rhuthun.