Oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mostyn, Llandudno
Mostyn, Llandudno

Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth: Cartref Creadigol i Bawb

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru ac fe’i cydnabyddir fel ‘canolbwynt cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau’. Mae ganddi raglen artistig eang, yn cynhyrchu ac yn cyflwyno, ar draws yr holl ffurfiau celfyddydol, gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, celfyddydau gweledol, ffilm a chelfyddydau cymunedol. Mae Canolfan y Celfyddydau yn adran o Brifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Gyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Fe’i lleolir yng nghanol campws y brifysgol, gyda golygfeydd godidog ar draws tref Aberystwyth ac ar hyd arfordir Bae Ceredigion.

Mae orielau y Ganolfan yn darparu amgylchedd perffaith i artistiaid arddangos eu gwaith ac i bawb weld a phrofi celf eithriadol. 

Mae’r Ganolfan yn arddangos ac yn cefnogi artistiaid o bob rhan o Gymru, y DU a thu hwnt. Yn ogystal, mae’n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithdai, sy’n ei gwneud yn le gwych i ddysgu am gelf a chreadigrwydd.

Ymweld


Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth        
Prifysgol Aberystwyth        
Campws Penglais        
Aberystwyth        
SY23 3DE

I gael gwybod mwy, ewch i:

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Projectau, Arddangosfeydd & Erthygl