Cagan Sekercioglu yn paratoi i ryddhau Cigydd Cefngoch ar ôl rhoi modrwy arno, Aras, Twrci
DRAKE, Carolyn
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Dw i'n gweld bod agosatrwydd yn dod o sgwrs, ac ar ddyddiau da gallai hynny arwain at foment annisgwyl. Ar ôl gwylio eirth yn bwyta o finiau sbwriel a chasglu carthion bleiddiaid o'r goedwig, ffeindiais fy hun yng ngorsaf modrwyo adar Çagan Sekercioglu mewn pentref ger y ffin ag Armenia. Adarwr a biolegydd cadwraeth yw Çagan. Yr her oedd gwneud portread ohono ynghyd â'r adar bach yr oedd ei dîm yn eu modrwyo—mae pobl ac adar yn bodoli ar wahanol raddfeydd. Yn ôl ei awgrym e, yn sgil yr amser a dreulion ni gyda'n gilydd, fe wnes i sefyll y tu allan i'w drelar wrth iddo ryddhau'r adar bach o'r tu mewn." — Carolyn Drake
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.