Sant Ioan yn pregethu
RODIN, Auguste
Roedd Ioan Fedyddiwr yn destun poblogaidd ymhlith cerflunwyr y Salon, a fyddai fel rheol yn cyfleu corff dyn ifanc, yn hytrach na sant aeddfed. Llwyddwyd i gael yr osgo hwn yn hollol ddifyfyr gan nofis o fodel o'r enw Pignatelli pan ddywedodd Rodin wrtho i ddechrau cerdded. Model arall oedd y pen. Cafodd y gwaith cyfan ei arddangos am y tro cyntaf fel plastr ym 1880. Cafodd y gyfres efydd y mae'r gwaith hwn yn perthyn iddi ei chastio gan Alexis Rudier, a ddaeth yn fwriwr haearn i Rodin ym 1902. Prynwyd y gwaith gan Margaret Davies ym Mharis ym 1913.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.