Ffordd ym Mhorthclais gyda'r Haul yn Machlud
SUTHERLAND, Graham
Ymwelodd Graham Sutherland â Sir Benfro am y tro cyntaf ym 1934, daeth yn drwm o dan ddylanwad y dirwedd a welodd yno. Pan ddychwelodd yn ystod degawd olaf ei fywyd, ailddarganfyddodd yr ysbrydoliaeth yma a dechreuodd gyfres newydd sbon o baentiadau dathlu. Yn llythyr serch i’r dirwedd, mae gwaith fel Ffordd ym Mhorthclais gyda'r Haul yn Machlud yn amlygu harddwch Sir Benfro ac yn coffáu’r ffordd roedd Sutherland yn teimlo wrth ymweld â’r ardal. Ysgrifennodd fod y gyfres hwyr yma o baentiadau yn mynegi hanfod “deallusol ac emosiynol” lle.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.