Swyn I
Mae gwaith celf Mary Lloyd Jones yn cyfeirio’n aml at dirwedd Cymru a’i hanes ysbrydol hir. Meddai’r artist: “Drwy fy ngwaith, rwy’n ceisio creu cysylltiadau â’r gorffennol, gyda bywydau cenedlaethau blaenorol, gyda chof gwerin, mythau a chwedlau, sydd oll yn cyfrannu at awyrgylch y dirwedd.” Cyfres o weddïau yw'r ysgrifen ar waelod y darn hwn sy’n gofyn am amddiffyniad rhag dewiniaeth, ac mae’r teitl Swyn yn cyfeirio at hudoliaeth. Roedd dewiniaeth yn gyffredin yn y Gymru fodern gynnar, ac roedd bendithion, credoau a defodau yn rhan o fywyd bob dydd.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.