Transept of Ewenny Priory, Glamorganshire
TURNER, Joseph Mallord William
Ymwelodd Turner a phriordy Ewenni ar ei daith drwy dde Cymru ym 1795 fel artist ifanc ar drothwy gyrfa ddisglair. Brasluniodd yn y fan a’r lle, cyn creu’r paentiad dyfrlliw cywrain hwn sy’n dangos croesfa ddeheuol y priordy gyda golau euraid yn tywynu drwy’r drws a’r ffenestri. Mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel fferm – ar y dde mae menyw yn bwydo ieir, dyn yn arwain mochyn ar y chwith, a berfa ar ei hochr yn y blaendir. Dangoswyd y gwaith yn yr Academi Frenhinol ym 1797. Ysgogwyd un beirniad i ysgrifennu taw ‘O ystyried lliw ac effaith, dyma un o’r darluniau gwychaf a welsom erioed, cystal â darluniau gorau Rembrandt’. Adeiladwyd priordy Ewenni ger Pen-y-bont ar Ogwr yn y 12fed ganrif, ac mae’n dal i sefyll heddiw. Mae’n bosib taw’r marchog ar y feddrod allor ar ochr dde’r darlun yw Syr Paganus de Turberville o Coity, noddwr o’r cyfnod cynnar hwnnw. Roedd Turner yn mwynhau ymweld â chymru, ac fe ddychwelodd sawl tro yn ystod degawd gyntaf ei yrfa. Sbardunodd y wlad rai o’i luniau dyfrlliw mwyaf tanbaid a rhamantus.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.