Hunanbortread
MORRIS, Cedric
Peintiwyd yr hunanbortread trawiadol hwn tra roedd Cedric Morris yn byw yn Newlyn, Cernyw gyda'i gymar oes a'i gyd-artist Arthur Lett-Haines. Er bod cyfunrywioldeb yn dal i fod yn anghyfreithlon ar y pryd, roedd y ddau ddyn yn eithaf agored am eu perthynas, gan gynnal partïon chwedlonol a fynychwyd gan lawer o bobl hoyw a deurywiol. Fel yn achos ei holl bortreadau, mae Morris wedi anelu at ddal elfennau o bersonoliaeth a chymeriad ei bwnc. Y tu ôl i Morris, a oedd yn hoff iawn o fyd natur, mae golygfa dirweddol, er nad yw'n glir ai golygfa drwy ffenestr neu baentiad yn hongian ar y wal yw hon.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.