Bachgen Sâl gyda Chath
BOWEN, John
Yn y paentiad yma, mae bachgen yn sefyll mewn cae yn dal cath. Gan gwrdd â llygad yr arsyllwr, mae mynegiant y ddau yn awgrymu cysylltiad agos, a dysgwn o’r teitl a ddewiswyd gan yr artist fod y bachgen yn sâl. Yn ei gysgod gallwch weld rhith llygad yn edrych yn ôl arnoch chi. Ai arwydd yw’r ffigwr cysgodol yma? Rhybudd o salwch neu farwolaeth? Ydy’r bachgen yn cael cysur a iachâd o’i gwmnïaeth â’r gath? Buan y mae’r hyn sy’n ymddangos, ar yr olwg gyntaf, fel portread syml o fachgen a’i anifail anwes, yn dod yn llun dieithr a dirgel.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.