Georgeous Macaulay mewn Sou'wester
AITCHISON, Craigie
Ers dechrau’r 1960au mae Craigie Aitchison wedi ffafrio gweithio gyda modelau o India’r Gorllewin ac Affrica. Yn ôl yr artist mae “lliwiau’n edrych yn llawer gwell yn erbyn croen du”. Georgeous Macaulay o Nigeria oedd y model du cyntaf iddo weithio gydag e, ac fe beintiodd e dro ar ôl tro.
Yn y portread hwn, caiff ei fframio â lliwiau pinc a glaswyrdd oeraidd cain, sy'n cyferbynnu â chyfoeth a chynhesrwydd ei groen. Roedd gan Craigie Aitchison ddiddordeb mewn penwisgoedd a sut y gallai'r siapiau sy'n deillio o hynny ddod yn ganolbwynt i baentiad. Dyma’r sou'wester, ffurf draddodiadol o het law croen olew y gellir ei blygu fyny, sy'n ganolbwynt i’r cyfansoddiad.
Mae Georgeous Macaulay mewn Sou'wester wedi bod ar fenthyg i Amgueddfa Cymru gan Ymddiriedolaeth Derek Williams ers 2001.
Cafodd y gwaith hwn ei gynnwys yn nheithiau Hanes Pobl Ddu digidol Y FAGDDU yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.