John Davies, Rheolwr Melinau Tun, Hirwaun
CHAPMAN, W. J. (attributed to)
Un llun yw hwn o grŵp o bortreadau a gomisiynwyd gan y diwydiannwr Francis Crawshay yn y 1830au. Mae pob un o’r gweithwyr – dynion i gyd – yn grefftwyr a gwŷr di-grefft o weithfeydd dur Hirwaun a gweithfeydd tunplat Trefforest.
Peth anghyffredin oedd i un o gewri diwydiant gomisiynu portreadau unigol o’i weithwyr, ond nid diwydiannwr cyffredin oedd Francis Crawshay. Adeiladodd fwthyn bychan i’w hun yn hytrach na byw ym mhlasty’r teulu, a doedd dim diddordeb ganddo yn arferion busnes y Crawshays: cwynai ei dad ei fod yn gwario arian fel y dŵr. Ef oedd unig siaradwr Cymraeg y teulu, a byddai’n fwy tebygol i chi ei weld yn rhannu sgwrs gyda’i weithwyr nag yn eu gorchymyn. Enw hoffus y gweithwyr amdano oedd ‘Mr Frank’.
Ddechrau’r 1830au cymerodd Francis yr awennau yng Gweithfeydd Dur Hirwaun, a brynwyd gan ei dad ym 1819, a’r gweithfeydd tunplat newydd yn Nhrefforest. Comisiynwyd portreadau’r gweithwyr oddeutu 1835, ac maent wedi’u priodoli i’r artist teithiol W J Chapman. Arhosodd y set ym meddiant y teulu Crawshay drwy ewyllys, ac mae’n bosib bod mwy yn wreiddiol – mae cofnod o un arall sydd bellach ar goll i bob tebyg
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Manylion
Collection
Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem
NMW A 29950
Creu/Cynhyrchu
CHAPMAN, W. J. (attributed to)
Dyddiad: 1835-1840
Derbyniad
Gift, 24/7/2012
Techneg
Oil on canvas
Techniques (fine art)
Art dept - fine
Fine Art - painting
Deunydd
Oil
Canvas
Lleoliad
In store
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.
Tags
Rhannu
Mwy fel hyn
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
CHAPMAN, W. J. (attributed to)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru