Icarus
GILBERT, Sir Alfred
Comisynwyd gwaith efydd Alfred Gilbert ym 1882 gan Frederic Leighton (yr Arglwydd Leighton wedi hynny), a gadawyd i'r cerflunydd ddewis ei bwnc. Dewisodd Icarws, mab chwedlonol y dyfeiswr Groegaidd, Daedalws. Rhoes ei dad adenydd a phlu o gwyr iddo, ond hedfanodd Icarws yn rhy agos i'r haul gan syrthio i'r ddaear ar ôl i'r cwyr doddi. Mae hwn yn dangos dylanwad amlwg Donatello ac mae'n un o weithiau efydd harddaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cydnabyddwyd safon eithriadol o uchel y gwaith gan yr Academi Frenhinol ym 1884 a bu'n gyfrwng i sefydlu Gilbert fel cerflunydd mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Defnyddiwyd Icarws yn aml i ymgorffori peryglon uchelgais yr ifainc ac ystyriai Gilbert fod y gwaith efydd yn fath o hunan bortread seicolegol. Mae hwn yn ddarn unigryw a gafodd ei gastio yn Napoli. Dywedai Gilbert mai hwn oedd ei hoff waith.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Mwy fel hyn
Amgueddfa Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Amgueddfa Cymru
RICHARDS, Ceri Giraldus
© Ystâd Ceri Richards. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
BURNE-JONES, Sir Edward, (after)
MACBETH, Robert Walker
Fine Art Society Plc
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
