Brecwast gyda Marion ar ôl ffrae, Croatia
ANDERSON, Christopher
Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn: "Tynnais y llun yma o Marion yng Nghroatia tua 2003. Roedden ni'n cael brecwast y bore ar ôl ffrae, ac mae ei llygaid wedi’u chwyddo gan y crio. Ar y pryd, roedd yn gofnod dyddiadur neu ffordd o gofio’r foment. Wnaeth e ddim croesi fy meddwl y byddai lluniau o fy mywyd personol yn dod yn gymaint rhan o'm gwaith. Flynyddoedd yn ddiweddarach byddwn yn tynnu lluniau fy nheulu mewn lliw a byddai hynny'n troi’n llyfr, SON. Wrth wneud y llyfr hwnnw, edrychais yn ôl trwy fy archifau gyda llygaid newydd, ac roedd lluniau fel hyn fel pe baent yn meddu ar ystyr newydd a chyfoethach nag yr oeddwn yn gallu ei weld ar y pryd." — Christopher Anderson
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.