Siop Tatŵs, Daytona Beach. Wythnos Feicio - 50 mlwyddiant
Carl, DE KEYZER
Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn: "Wrth weithio ar God, Inc., fy mhroject yn yr Unol Daleithiau am grefydd a chenedlaetholdeb (1990-1991), roeddwn i weithiau’n tynnu lluniau o bynciau anghrefyddol i gadw fy meddwl yn chwim. Yn ystod yr Wythnos Feicio yn Daytona Beach, roeddwn yn dilyn grŵp o bregethwyr oedd yn feicwyr pan ddes i ar draws y ferch hon mewn siop tatŵs. Roedd hi'n sefyll yn hanner noeth yn y ffenestr, yn edrych yn y drych ar ôl i'r tatŵ gael ei wneud, mae’n debyg. Nid fi oedd yr unig un oedd wedi ei gweld." — Carl De Keyzer
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.