Cerdyn Nadolig, 1956
McBEAN, Angus
Cynhyrchodd Angus McBean gerdyn Nadolig hunanbortread i’w hanfon i ffrindiau a theulu bron bob blwyddyn o 1933 tan 1985. Mae’r cardiau’n dogfennu’r newid mewn chwaeth gyfoes ac yn ymddangosiad y ffotograffydd wrth iddo heneiddio. Maen nhw’n hynod o bersonol a ffraeth, ac yn dangos ei allu diddiwedd i arloesi’n dechnegol. Yn ei hunangofiant sydd heb ei chyhoeddi, Look Back In Angus, ysgrifenna McBean “Rydw i wedi defnyddio bron pob dyfais ffotograffig hysbys i blygu’r cyfrwng anhydrin i fy ewyllys, a sawl tro bu’n ddinoethiad niferus”. Mae’r ffotograff hwn yn cynnwys tair dol ffasiwn yn gwisgo dillad yn steil y dylunydd Ffrengig chwedlonol Paul Poiret (1879-1944), ffigwr McBean a dau ffigwr o bartner McBean, David Ball. Maen nhw i gyd yn deithwyr ar yr S.S. Angus. Mae’r thema streipiog yn cyfeirio at gynllun addurniadol enwog a grëwyd gan McBean ar gyfer yr ystafell Marquee yn yr Academy Cinema, Oxford Street, ym 1954.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.