Yr Wyddfa o Lanfrothen
SPENCER, Stanley
Ymddiswyddodd Spencer o'r Academi Frenhinol ym 1935 ar ôl i ddau o'i weithiau gael eu gwrthod, ac erbyn 1938 roedd mewn trafferth ariannol. Peintiwyd yr olygfa hon yn Llanfrothen ger Harlech ym mis Medi a dechrau Hydref y flwyddyn honno, pan oedd yn aros gyda'i wraig gyntaf, Hilda, ger yr Wyddfa. Mae'r gwaith yma'n dangos lliwiau a gweadau gwahanol tirwedd y gogledd. Yr Wyddfa yw ein golygfa enwocaf, ond yn y llun yma fe'i gwasgwyd i'r gornel y tu ôl i'r cymylau. Y caeau, y waliau a'r coed yn y blaendir yw ffocws y llun, ac fe'u peintiwyd â realaeth ddwys. Peintiodd Spencer nifer o dirluniau yn y 1930au, am eu bod yn gwerthu'n dda.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.