Y Bachgen o Sgowt
Erbyn 1910, roedd Goscombe John wedi mwynhau degawd o lwyddiant poblogaidd a beirniadol, gan lwyddo i gael nifer o gomisiynau ar gyfer cofebau cyhoeddus o bwys, yng Nghymru yn enwedig. Daeth yn aelod o'r Academi Frenhinol ym 1909, ac fe'i gwnaed yn farchog ym 1911. Arddangoswyd y ffigwr hwn yn yr Academi Frenhinol ym 1911 yn gyntaf. Portread yw o Basil Webb, unig fab Henry Webb, Llwynarthau, Sir Fynwy, AS Rhyddfrydol a pheiriannydd mwyngloddio, a oedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Ocean Coal David Davies. Mae gwaith modelu, ystum a graddfa'r ffigwr hwn yn atgoffa rhywun o 'David' Andrea del Verrocchio. Bu'r gwrthrych yn gwasanaethu fel Ail Is-gapten gyda'r Gwarchodlu Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i lladdwyd ym mis Rhagfyr 1917. Bu'r cerflun hwn yn rhan o 'An Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction' ym 1913-14.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.