Llun o ddiweddar arweinydd Cynghrair y Gogledd Ahmed Shah Massoud wedi'i orchuddio â blodau mewn seremoni i goffáu trydydd pen-blwydd ei lofruddiaeth gan aelodau Al-Qaeda
SAMAN, Moises
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Tynnwyd y llun yma yn Kabul yn ystod 2003, yn ystod gorymdaith i gofio’r diweddar bennaeth Affganistanaidd Ahmad Shah Massoud. Lladdwyd Massoud, arweinydd Cynghrair y Gogledd a chadlywydd gwrth-Taliban brwdfrydig, gan filwyr Al Qaeda o Tunisia yn esgus eu bod yn newyddiadurwyr, ddeuddydd cyn ymosodiadau 9/11. Mae'r Affganistan dw i'n ei hadnabod yn wlad o wrthgyferbyniadau sy'n gwrthdaro, o harddwch amrwd; mae ei thirwedd wedi’i chreithio gan ganrifoedd o ryfela yn erbyn byddinoedd tramor a hi ei hun. O 2001 i 2010, rwyf wedi dychwelyd dro ar ôl tro, gyda'r gobaith o ddogfennu'r addewid o heddwch a ffyniant a wnaed gan y pwerau goresgynnol diweddaraf. Sylweddolais yn fuan freuder yr addewid hwnnw. Gwelais Affganistan ar y dibyn, ei hynt tuag at anarchiaeth yn ennill cryfder ledled y wlad ac nid yw bellach wedi'i gyfyngu i'r taleithiau Pashto lle cafodd y Taliban ei eni ac mae'n parhau i fod yn ddisymud." — Moises Saman
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.