Eat me a'r faner Americanaidd, Downtown Manhattan. Dinas Efrog Newydd
HURN, David
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn mae: "Yn 1962, ymwelais ag Efrog Newydd am y tro cyntaf — y gyrchfan y mae'n rhaid i bob ffotograffydd ifanc ymweld â hi. Yn ddiweddarach, wrth edrych ar fy mhroflenni, cefais fy synnu faint o luniau oedd â baner America yn y cefndir. Sylweddolais y gellid defnyddio'r faner fel dolen, gan ddangos newidiadau gweledol a chymdeithasol yn Efrog Newydd yn ystod fy ymweliadau niferus yn y dyfodol. Tynnwyd y llun yma yn 2002. Mae'n berthnasol i mi, fel Prydeiniwr, oherwydd mewn rhyw ffordd dw i'n teimlo ei fod yn ffitio i draddodiad amheus cardiau post risqué Prydain. Nid yw erioed wedi cael ei gyhoeddi, gan nad yw'r llyfr y byddai'n ymddangos ynddo wedi ei gwblhau eto.''' — David Hurn
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.