Autumn Leaves with Rosehips I
JOHNSON, Nerys
Roedd Nerys Johnson, a anwyd ym Mae Colwyn, yn guradur ac artist uchel ei pharch. Roedd hi’n byw gydag arthritis rhiwmatoid, salwch cynyddol a chronig sy’n achosi poen, chwydd ac anhyblygrwydd yn y cymalau. O ganlyniad, daeth ei gwaith yn llai o ran maint a daeth mwy o ffocws i’w gwaith wrth i’w symudedd gyfyngu. Yma, mae Johnson yn defnyddio lliwiau cefndir tywyll a gofod negyddol i bwysleisio disgleirdeb lliw a strwythur ffurfiau. Blodau oedd prif destun celf Nerys Johnson, yn enwedig yn neg mlynedd olaf ei bywyd. Yn y cyfnod hwn, roedd yn gaeth i’r tŷ fel arfer, ond roedd hi’n dal yn gallu cael gafael ar flodau fel testun brasluniau a phaentiadau. Roedd hi wrth ei bodd â’u lliwiau, gan gyfeirio at flodau fel ‘bocs paent byd natur’. Ei ffefrynnau i’w paentio oedd ‘y rhai gyda lliw cryf a ffurf drawiadol, fel tiwlipau, artisiogau, blodau haul, gerbera, pabïau, lilis ac irisau’. ‘Mae blodau wedi bod yn ffynhonnell bwysig o ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith ers amser maith. Mae nhw’n fyw, a dwi’n ceisio cyfleu y bywyd hwnnw. Maen nhw’n tyfu, yn newid, yn p ydru ac yn transnewid. Mewn braslun, caiff ymdeimlad o symudiadau, strwythur a rhythmau eu cyfleu drwy farciau a llinellau; mewn paentiad, caiff ei gyfleu drwy gydbwysedd a chyferbyniad lliwiau’. - Nerys Johnson
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.