Aberfan: 21ain Hydref 1966 / Nos da, Cariad x
Hawksley, Rozanne
Yn 1966 dymchwelodd tomen lo ar bentref Aberfan ger Merthyr Tudful, gan chwalu ysgol a lladd 116 o blant a 28 oedolyn. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, roedd Rozanne Hawksley yn teimlo bod angen creu rhywbeth i fynegi ei theimladau, heb fwriadu iddo gael ei arddangos. Mae'r canlyniad yn teimlo fel gwrthrych galaru Fictoraidd – torch wedi'i gorchuddio â rhwyd a sidan du yn cynnwys maneg plentyn sy’n fudr ac wedi’i difrodi. Mae gan ddau ruban arysgrifau wedi'u hysgrifennu â llaw: 'Aberfan: 21st October 1966' and 'Nos da, Cariad x'. Dywedodd yr artist nad oedd hi eisiau i'r gwaith gael ei fframio, ond “i edrych fel maneg fach goll, ddienw.”. Archwiliodd Rozanne Hawksley gwestiynau mwyaf bywyd, fel dioddefaint dynol a cham-drin pŵer, ond heb ystumiau mawreddog. Defnyddiodd wrthrychau di-nod i greu gweithiau llawn pŵer ingol.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.