×

Image filter options
Mae’r wefan hon yn newydd a dal yn cael ei datblygu.
Archwilio Erthyglau Cynfas Dysgu
Amdanom Ni OGGGC Cysylltwch â ni
en
ARCHWILIO ERTHYGLAU CYNFAS DYSGU AMDANOM NI OGGGC CYSYLLTWCH Â NI
Nôl Gwaith Celf Blaenorol Gwaith Celf Nesaf

Datgelu'i galon

KALIGHAT WORKSHOP,

© Amgueddfa Cymru
×

Arddull peintio poblogaidd penodol yw Kalighat a ddatblygodd yn ninas Calcutta yn 19eg ganrif a hynny yn y strydoedd o amgylch teml Kalighat, cyrchfan boblogaidd i bererinion. Gwaith artistiaid proffesiynol (patuas) yw’r darluniau dyfrlliw yma (a elwir yn ‘pats’) ac ynddynt gwelwn dduwiau a duwiesau Hindŵ a chymeriadau chwedlonol eraill. Byddai ymwelwyr â’r deml yn eu prynu fel cofroddion am bris oedd yn cyfateb i geiniog yr un. Yn eu harddull syml hyderus, eu llinellau cryf, y defnydd o liw llachar a rhythm gweledol maent yn debyg iawn i gelf fodern, ond yn y testunau a’u bwriad maent yn benodol i’r cyfnod a’r man y cawsant eu cynhyrchu.

Er i filoedd o baentiadau Kalighat gael eu cynhyrchu yn y 19eg ganrif, prin yw’r rhai sydd wedi goroesi yn yr India oherwydd na fyddai casglwyr celf cyfoethog yn eu prynu. Mae 69 paentiad Kalighat yng nghasgliad yr Amgueddfa. Mae tarddiad y gweithiau cyn 1954 yn anhysbys, er ei bod yn debygol iddynt gael eu caffael yn ninas Calcutta tua 1873.

Mae’r duw Hanuman, sydd ar lun mwnci, yn gymeriad canolog yn y chwedl epig, Ramayana. Drwy ei ddyfeisgarwch a’i ddewrder, mae’n trechu Brenin yr Ellyllon Ravana ac yn dod yn was mwyaf triw Rama. Un tro, er mwyn dangos cymaint oedd ei ffyddlondeb, dyma fe’n rhwygo’i frest ar agor a dyna lle roedd Rama a Sita yn eistedd ar ei galon.


Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.

Manylion

Casgliadau

Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

NMW A 11666

Creu/Cynhyrchu

KALIGHAT WORKSHOP,
Dyddiad:

Derbyniad

Source unknown, 1954

Mesuriadau

(): h(cm) primary support:45.7
(): h(cm)
(): w(cm) primary support:28.3
(): w(cm)
(): h(cm) secondary support:48
(): h(cm)
(): w(cm) secondary support:30.5
(): w(cm)
(): h(in) primary support:18
(): h(in)
(): w(in) primary support:11 1/8
(): w(in)
(): h(in) secondary support:18 7/8
(): h(in)
(): w(in) secondary support:12
(): w(in)

Techneg

watercolour on paper on card
drawings and watercolours
Fine Art - works on paper

Deunydd

watercolour
Paper
cerdyn

Lleoliad

In store
Mwy

Tags

  • Celf Gain
  • Gweithiau Ar Bapur
  • Kalighat Workshop
  • Mudiadau Celf A Dylunio
  • Ysgol Kalighat

Rhannu

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Mwy fel hyn

West 12th Street, New York
West 12th Street, New York
BLUHM, Norman
© Norman Bluhm/Amgueddfa Cymru
Gregynog Drawings
Gregynog Drawings
CHAMBERLAIN, Brenda
© Brenda Chamberlain/Amgueddfa Cymru/Reuven Jasser
Standing Woman in Head-Dress
Standing Woman in Head-dress
JOHN, Augustus
© Ystâd Augustus John. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Standing Woman - self study'
Standing Woman
HALL, Edna Clarke
© Edna Clarke Hall//Gail Clarke HallAmgueddfa Cymru - Museum Wales
La Cathedrale Engloutie: Drawing for Diptych
La Cathedrale Engloutie: Drawing for Diptych
RICHARDS, Ceri Giraldus
© Ystâd Ceri Richards. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru
Wooden Boulder in the sea 2003
Wooden Boulder in the sea 2003
NASH, David
© David Nash. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru
Study, Orange and Green
Study, orange and green
SUTHERLAND, Graham
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Head Study Liverpool
Head Study Liverpool
PRENDERGAST, Peter
© Ystâd Peter Prendergast. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru
Design for Edinburgh Tapestry Company
Design for Edinburgh Tapestry Company
SUTHERLAND, Graham
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Drawing for Capel Gore Triptych
Drawing for Capel Gore Triptych
MALTHOUSE, Eric
© Eric Malthouse/Amgueddfa Cymru
Banquet 1947
Banquet 1947
MARINOT, Maurice
© Maurice Marinot/Amgueddfa Cymru
Untitled
Untitled
COLLINS, Cecil
© Cecil Collins/Amgueddfa Cymru
Postcard series III - Figures in a landscape
Postcard series III - Figures in a landscape
DAVIES, Tim
© Tim Davies/Amgueddfa Cymru
Vox Populi
Vox Populi
EVANS, Merlyn Oliver
© Merlyn Oliver Evans/Amgueddfa Cymru
Kloj Norwest Bosnia
Kloj Norwest Bosnia
HUTCHINGS, Roger
© Roger Hutchings/Amgueddfa Cymru
Hanging form, study
Hanging form, study
SUTHERLAND, Graham
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Still Life
Still life
GUTFREUND, Otto
© Amgueddfa Cymru
Capel Gore Triptych
Capel Gore Triptych
MALTHOUSE, Eric
© Eric Malthouse/Amgueddfa Cymru
Ghetto Theatre, 1919
Ghetto theatre, 1919
BOMBERG, David
© Ystâd David Bomberg. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru
Interval, Ghetto Theatre 1920
Interval, Ghetto Theatre 1919
BOMBERG, David
© Ystâd David Bomberg. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru

CELF AR Y CYD

  • Archwilio
  • Erthyglau Cynfas
  • Dysgu

Y WEFAN

  • Amdanom Ni
  • Mynediad
  • OGGGC
  • Cwestiynau cyffredin
  • Hawlfraint
  • Cwcis

CYSYLLTWCH Â NI

  • Cysylltwch â ni
  • Instagram @celfarycyd
× ❮ ❯