Gleiniau Aur ar Ymdrochwraig mewn Olew
DEWE MATHEWS, Chloe
Mae olew yn cyfateb i bŵer a chyfoeth. O ganlyniad, mae cystadlu brwd wedi bod am gronfeydd petrolewm helaeth Môr Caspia, sydd wedi'i leoli rhwng Asia ac Ewrop, ers cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991. Yn ei chyfres Caspian, mae Chloe Dewe Matthews yn dangos ochr wahanol i’r “aur du” i ni. Ynghanol tirwedd sydd wedi'i hanffurfio gan dechnegau mwyngloddio dinistriol, mae'r bobl leol yn dyheu am olew crai oherwydd ei rinweddau therapiwtig. Yn y ffotograff hwn, mae menyw yn ymdrochi mewn olew, gan obeithio y bydd yn gwella cyflyrau fel arthritis neu soriasis. Mae Matthews yn cyfleu’r cysylltiad dwfn rhwng y bobl, y tir a’i adnoddau, yng nghysgod tywyll y fasnach olew ryngwladol.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.