Sir Cedric Morris (1889-1982)
FREUD, Lucian
Ganed y paentiwr a’r garddwr, Cedric Morris, yn Sgeti, Abertawe, ac astudiodd ym Mharis. Cyfarfu Morris â’i gydymaith oes, yr arlunydd Arthur Lett-Haines, ym 1918. Ym 1937, sefydlodd y ddau Ysgol Baentio ac Arlunio Dwyrain Anglia. Roedd eu disgyblion yn cynnwys Lucian Freud, a baentiodd y portread hwn o’i athro ym 1940. Cofiai Freud yn ddiweddarach: ‘Dysgodd Cedric fi i baentio ac, yn bwysicach oll, i ddal ati. Nid oedd yn dweud rhyw lawer, ond roedd yn gadael i mi ei wylio’n gweithio. Rwyf i bob amser wedi edmygu ei baentiadau a phopeth amdano’.
Tynnodd Morris lun ei fyfyriwr hefyd yn yr un flwyddyn (Oriel Tate). Erbyn hyn, roedd potensial Freud yn cael ei gydnabod yn eang. Ar 7 Mawrth 1940, dywedodd yr Evening Standard fod ynddo'r 'addewid i fod yn baentiwr nodedig...deallus a llawn dychmyg, ag iddo synnwyr seicolegol greddfol yn hytrach na gwyddonol'.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.