Menyw a Phlentyn mewn Dôl yn Bougival
MORISOT, Berthe
'Does neb arall yn cynrychioli Argraffiadaeth gyda thalent mor goeth na mwy o awdrudod â Morisot' oedd geiriau’r beirniad celf Gustave Geffroy ym 1881. Yn ei dydd roedd wrth galon y mudiad Argraffiadaeth arloesol, ond ers hynny mae ei chyfraniad wedi ei anghofio bron yn gyfangwbl. Fel menyw dosbarth canol uwch, doedd gan Morisot ddim yr un rhyddid a’i chydartistiaid gwrywaidd i fynychu’r caffis a’r bariau ffasiynol a’r gofodau cyhoeddus sydd mor gyfarwydd yng ngweithiau’r Argraffiadwyr – y cartref oedd ei lle hi. Ond llwyddodd i feithrin hunaniaeth broffesiynol fel artist arloesol a’i blethu i’w rôl fel mam a gwraig mewn cartref bourgeois. Paentiwyd yr olygfa hon en plein air mewn gardd yn Bougival, pentref prydferth i’r gorllewin o Baris lle treuliodd yr artist sawl haf yn y 1880au. Mae mwy na thebyg yn dangos ei merch, Julie, yn rhoi blodyn i’w nyrs, Paisie wrth i’r ddwy ymdoddi i’r ardd wyllt a’r gwair hir o’u cwmpas Priododd Berthe Morisot ym 1874 ag Eugène Manet, brawd yr artist Edouard Manet. Wedi dod dan ddylanwad Manet, buan y datblygodd ei harddull ei hun, a daeth y ddau yn ffrindiau agos oedd yn edmygu gwaith eu gilydd yn fawr.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Manylion
Collection
Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem
NMW A 2491
Creu/Cynhyrchu
MORISOT, Berthe
Dyddiad: 1882
Derbyniad
Bequest, 12/12/1963
Techneg
Oil on canvas
Techniques (fine art)
Art dept - fine
Fine Art - painting
Deunydd
Oil
Canvas
Lleoliad
on display
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.
Tags
Rhannu
Mwy fel hyn
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
TURNER, Joseph Mallord William
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru