Di-deitl
D'AGATA, Antoine
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Y tu hwnt i ragrith sylfaenol cynhyrchu ffotograffiaeth sy'n manteisio ar ddioddefaint dynol gyda'r esgus o ledaenu gwybodaeth neu godi ymwybyddiaeth, mae amlder eiconograffeg tosturiol yn niwtraleiddio chwaeth, yn lleddfu greddfau creulon, ac yn ysgogi'r risg o agosatrwydd diogel a thwyllo o dan deyrnasiad awtocrataidd ymddangosiad.
Dw i'n dewis mabwysiadu strategaethau haciwr, gan greu iaith gyfrinachol, anghyfreithlon, anfoesol, gan ddadelfennu protocolau a adeiladwyd gan yr ideoleg hegemonig gyda'r bwriad penodol o'i halogi, ei wyrdroi a'i ddinistrio. Nid yw'r weithred o dynnu lluniau yn derbyn unrhyw gyfaddawd: mae'n golygu gwthio terfynau corfforol bywyd a meddiannu’r byd trwy amsugno ac arsugniad.
Mae ffotograffiaeth yn ffynhonnell anhrefn oherwydd bod ynddo hadau gweithredu, gan ryddhau'r dicter sy'n gwneud ofn ac awydd yn bosib. Nid yw dioddef, caru, meddwl, yn ddigon mwyach. Mae'n rhaid i rywun fod yn sant, neu'n wallgofddyn." — Antoine d'Agata
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.