Stiwdio (0X5A4983)
SEPUYA, Paul Mpagi
Artist o America yw Paul Mpagi Sepuya y mae ei waith yn canolbwyntio ar ofod perfformiadol y stiwdio ffotograffig. Mae ei gamera a'i stand drithroed fel arfer yn ganolog i’r gwaith mewn dull sydd wedi'i wreiddio mewn portreadau. Mae Sepuya bob amser yn bresennol yn y delweddau gwneuthuredig hyn, ac yn aml mae ffrindiau, cariadon, ac aelodau o'r gymuned gwîar yn ymuno ag ef. Mae offer gweladwy eraill yn cynnwys deunydd du sy'n amlygu'r olion bysedd a’r baw a adawyd ar wyneb y drych a ddefnyddir i adlewyrchu'r ddelwedd. Disgrifia Sepuya ei waith fel “ymgais i osod pynciau cwîar a du fel man cychwyn wrth orfod edrych ar ffotograffiaeth o’r gwaelod i fyny”. Mae’r deunydd du yn creu iaith sy’n cyfeirio at hanfodion ffotograffiaeth gynnar a’r ystafell dywyll, ond sydd hefyd yn amlygu düwch o fewn adeiladwaith y stiwdio, y corff ei hun, a’r camera. Crëwyd y print undod hwn fel ymdrech i godi arian yn sgil protestiadau Mae Bywydau Duon o Bwys yn dilyn llofruddiaeth George Floyd yn 2020. Aeth yr elw o'r gwerthiant i sefydliadau yn America sy'n ymladd dros fywydau pobl Dduon a chwîar; eirioli dros gydraddoldeb, cyfiawnder a chynhwysiant ac yn erbyn hiliaeth systemig ac unigol; creulondeb yr heddlu a charcharu cyn treial; etholiadau annheg a llygredig.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.