Emlyn Williams (1905-1987)
McBEAN, Angus
Mae’r portread hyn yn dangos Williams fel actor, yn chwarae rhan glöwr yn ei ddrama hunangofiannol enwog, The Corn Is Green (1938). Ganed Williams ym Mostyn, Sir y Fflint a chafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Ymddangosodd ar lwyfan am y tro cyntaf ym 1927, ond daeth yn llwyddiannus dros nos gyda Night Must Fall (1935), drama gyffrous a ysgrifennwyd ganddo ac y bu’n serennu ynddi. Ymddangosodd Williams hefyd mewn llu o ffilmiau a dramâu radio. Mae ei sioeau llenyddol un dyn, genre theatraidd a ddyfeisiodd ei hun i raddau helaeth, wedi dod yn chwedlonol. Cafodd Williams ei gydnabod yn gyhoeddus fel dyn deurywiol cyn llawer o’i gyfoeswyr, ac ysgrifennodd yn agored am ei rywioldeb yn ei ddau hunangofiant.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.