De Fietnam, Quang Ngai, Dioddefwr Sifil
JONES GRIFFITHS, Philip
Ganed Philip Jones Griffiths yn 1936 yn Rhuddlan, yn Sir Ddinbych, a gwnaeth yrfa iddo’i hunan fel ffotograffydd llawrydd a fyddai’n mynd ag ef ar aseiniadau ledled y byd. Roedd ei ymdriniaeth arloesol o Ryfel Fietnam yn portreadu gwir erchylltra’r gwrthdaro ac mae’n cael ei ystyried yn un o ddarnau mwyaf arwyddocaol ffotonewyddiaduraeth yr ugeinfed ganrif. Cyhoeddwyd llyfr Griffiths, Vietnam Inc yn 1971 a chyfrannodd at newid barn y cyhoedd a’r dirwedd wleidyddol yn America, a helpodd yn y pen draw i ddod â’r rhyfel i ben. Teimlai Griffiths gysylltiad mawr â phobl Fietnam a bu’n ailymweld â'r wlad bob blwyddyn hyd ei farwolaeth yn 2008.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.