Raethro, Pink
TURRELL, James
Dyma un o ddarnau taflunio golau cynnar yr artist o America, James Turrell, ac mae’n cynnwys rhomboid o olau pinc yn cael ei daflu i gornel ystafell, gan roi argraff o byramid tri dimensiwn goleuol yn hofran yn y tywyllwch. Wrth i’r arsyllwr symud tuag at y pyramid arnofiol yma, mae’n diflannu yn y pen draw i ddarn gwastad o olau. Mae arfer Turrell yn cynnwys archwilio golau a lle wrth iddo greu gwaith uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar ein profiad o liw yn ei ffurf fwyaf pur. Mae ei osodweithiau’n drochol, yn fyfyriol, ac yn aml yn llethol.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.