Yng Nghymoedd y de, cerdded y ci. Pendyrus, Cymru.
HURN, David
Mae dyn mewn cap stabal yn cerdded y ci ar stryd serth ym Mhendyrus, y Rhondda. Mae'r ci'n anadlu'n drwm ac yn tynnu'n eiddgar ar y tennyn. Tu ôl iddynt, mae dau berson arall. Gallwn ni weld ar draws y dyffryn o'r fan hyn. Ar waelod y dyffryn mae rhesi o dai teras, traciau rheilffyrdd, ac adeiladau diwydiannol yn cordeddu, gan ddilyn ochrau'r mynydd.
Tynnwyd y ffotograff hwn gan David Hurn yn 1971. Heddiw, mae David Hurn yn un o ffotograffwyr dogfennol enwocaf Prydain. Treuliodd lawer o'i yrfa yn dogfennu bywyd bob dydd yng Nghymru.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.