Y Gusan
Daw 'Y Gusan' o grŵp a ddyfeisiwyd ar gyfer 'Pyrth Ufern' gan Rodin, sy'n cynrychioli'r cariadon trist Paolo a Francesca yn 'Inferno' Dante. Ym 1887 comisiynodd gwladwriaeth Ffrainc fersiwn farmor anferth, a arddangoswyd am y tro cyntaf ym 1898. Cafodd y gyfres efydd y mae'r gwaith hwn yn perthyn iddi ei chastio gan Alexis Rudier, a ddaeth yn fwriwr haearn i Rodin ym 1902. Prynwyd y gwaith gan Gwendoline Davies ym 1912 a'i arddangos yn yr 'Arddangosfa Fenthyg' a drefnwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1913.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Manylion
Casgliadau
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.