Castell Dolbadarn
WILSON, Richard
Gorthwr crwn Castell Dolbadarn yw canolbwynt y paentiad hwn gan Richard Wilson, artist hanesyddol mwyaf dylanwadol Cymru. Adeiladwyd Dolbadarn mwy na thebyg yn y 13eg ganrif gan Llywelyn Fawr, yn gaer bwysig yng Ngwynedd uwchlaw Llyn Padarn. Erbyn 1282 roedd hi ym meddiant byddin Lloegr, a’i phren yn cael ei ddefnyddio i adeiladu Castell Caernarfon gerllaw. Bu Dolbadarn yn bwysig yn ddiweddarach yn y frwydr am annibyniaeth yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, a saif heddiw yn gofnod o lwyddiannau a methiannau tywysogion Cymru. Teithiodd Richard Wilson i’r Eidal yn y 1750au a bu’n brofiad a weddnewidiodd ei waith. Gyda’r Wyddfa yn y cefndir mae’n amlwg taw tirlun Cymreig yw hwn, ond mae Wilson wedi cyflwyno nodweddion Italianate fel y ffermdy yng ngysgod y muriau. Mae wedi addasu elfennau o’r tirwedd gan greu cyfosodiad clasurol yn null Hen Feistri’r Eidal, gan roi urddas a grym i’r olygfa fu’n gymorth i ddyrchafu statws tirlun Cymru mewn cylchoedd diwylliedig. Paentiodd Wilson gastell Dolbadarn sawl gwaith, ac mae’n debyg fod y cyfosodiad hwn yn dyddio o 1764/5. Mae sgan pelydr-X wedi datgelu bod y castell wedi’i baentio dros bortread o fenyw.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Manylion
Casgliadau
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.