Crud Du a Maneg Latecs
JAMES, Shani Rhys
Saif babi mewn crud gan syllu ar yr arsylwr. Mae’r crud yn amddiffynfa ac yn garchar. Awgryma moeli’r ystafell a’r faneg latecs ar y llawr amgylchedd sefydliadol – ysbyty efallai. Mae’r babi yn edrych yn fregus ond eto’n herfeiddiol, ac yn ôl Rhys-James mae’n meddu ar “briodwedd amwys o edrych yn hen, moel, coch a chrychiog… fel pe bai wedi gweld y cyfan.”
Portread o'r artist yw hwn ac mae wedi'i seilio ym 1962 pan symudodd gyda'i theulu i Lundain o Awstralia. Mae'r papur wal kitsch yn efelychu steil y cyfnod tra bod bariau'r cot yn cyfleu caethiwed. Astudio Shani Rhys-James yng Ngholeg Celf Loughborough ac yng Ngholeg Celf St Martin yn Llundain dan arweiniad Gillian Ayres.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.