Howler's Hill
ARNATT, Keith
Defnyddiodd Keith Arnatt ei gamera, a gwybodaeth fanwl o hanes celf, i wreiddio gwrthrychau cwbl gyffredin
ag ystyr newydd. Mae’r ffotograff hwn yn rhan o gyfres o ffotograffau a dynnwyd yn Howler’s Hill – safle tirlenwi ger Fforest y Ddena – sy’n dioddef yn sgil effaith ein cymdeithas taflu i ffwrdd. O dan olau cynnes min nos, mae'r pentyrrau o wastraff sy’n pydru yn dod yn rhywbeth trawiadol, a hardd hyd yn oed. Mae bagiau bin a bocsys cardfwrdd gorlawn, a goleuadau tylwyth teg wedi’u clymu, hyd yn oed, yn llawn holl emosiwn a mawredd paentiadau olew Baróc o'r unfed ganrif ar bymtheg.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.