Bore Sul
ELWYN, John
Ganwyd John Elwyn yn ne Ceredigion a bu'r Gymru wledig, yn arbennig yr ardal o gwmpas Castell Newydd Emlyn, yn ysbrydoliaeth iddo yn ystod ei yrfa fel athro yn Lloegr. Roedd 'Bore Sul' yn un o ddau beintiad 'capel' o 1950, yn darlunio pobl yn eu dillad dydd Sul a'u siwtiau tywyll yn mynd i'r Capel neu'n dod oddi yno. Dangoswyd y ddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Roedd Elwyn yn un o nifer o beintwyr o'r 1950au y teimlid bod eu gwaith yn hygyrch ac yn unigryw Gymreig. Roedd 'Bore Sul' yn un o nifer o weithiau a brynwyd gan Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.