Menyw yn ei Chwrcwd
BUTLER, Reginald
Mae'r cerflun bach, haniaethol hwn wedi'i wneud o haearn wedi'i weithio a'i weldio. Bu’r artist, Reg Butler, yn gweithio fel cynorthwyydd i Henry Moore, cerflunydd sy'n adnabyddus am ei ffigyrau syml, llyfn a siapus. Mewn cyferbyniad, mae ffurf pigog, linellol Menyw yn ei Chwrcwd Butler yn wahanol iawn i ffurf menyw corff llawn Moore. Mae ganddi gorff tenau, lletchwith, tebyg i gleren ac mae yn ei chwrcwd ar ei thair coes fel petai ar fin neidio. Mae'r siapiau a wneir gan ei chorff yn anghyfforddus, yn rhyfedd ac yn fygythiol ar yr un pryd.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.