Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint
HAWGOOD, Dominic
Ganed Dr Rowan Williams yn Abertawe ym 1950. Ar ôl astudio Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt, dechreuodd ei yrfa fel academydd, ac fe’i gwnaed yn Athro ym Mhrifysgol Rhydychen ym 1986. Daeth yn Esgob Mynwy ym 1992 ac yn Archesgob Cymru yn 2000, cyn cael ei gysegru’n Archesgob Caergaint yn 2002. Mae’n feddyliwr ac yn ddiwinydd o fri, ac mae wedi cyhoeddi sawl llyfr, gan gynnwys dwy gyfrol o farddoniaeth. Magwyd Dominic Hawgood yn Swydd Amwythig, a graddiodd yn 2005 o Brifysgol Cymru, Casnewydd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Celf Ffotograffig. Yn ystod ei astudiaethau, arddangosodd mewn nifer o sioeau grŵp, ac ym mis Ebrill 2005 cyrhaeddodd rownd derfynol arddangosfa flynyddol gyntaf Bright Young Things yn Berlin. Meddai Hawgood am y project hwn “Mae’r comisiwn hwn, fy un cyntaf, yn arwydd o fy ymdrech i roi perthnasedd proffesiynol newydd i fy ngwaith, a chymhwyso fy sgiliau mewn ffyrdd newydd”. Mae Hawgood wedi creu delwedd fyfyriol ac atmosfferig, sy’n dwyn i gof baentiadau’r artist Johannes Vermeer yn ei ddefnydd o ofod mewnol a gwrthdaro rhwng golau a thywyllwch.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.