Y Telynor Dall, John Parry (bu f.1782)
‘And with a master's hand and prophet's fire, Struck the deep sorrows of his lyre’ (Thomas Gray, Y Bardd, 1757) Yma mae John Parry (Parry Ddall) wedi ymgolli yn sŵn ei gerddoriaeth ei hun. Cafodd ei eni'n ddall a daeth i fod yn gerddor enwog ac yn delynor i Siôr III a Syr Watkin Williams Wynn. Roedd yn aelod cynnar o Gymdeithas y Cymmrodorion a daeth i fod yn ffigwr amlwg yn yr Adfywiad Celtaidd. Honai fod ei gerddoriaeth o darddiad derwyddol, ac yn ddiweddarach mabwsiadwyd ei delyn deires fel offeryn cenedlathol Cymru. Ysbrydolodd ei ‘gytgordiau dall hudolus’ a'i ‘alawon i roi lwmp yn eich gwddf’ y bardd Seisnig Thomas Gray i gwblhau ei gerdd 'The Bard' ym 1757. Daeth y gerdd hon yn eiconig, ac yn destun poblogaidd ymysg artistiaid fel Thomas Jones. Peintiwyd y portread sensitif hwn o 'Parry Dall' gan ei fab, William. Peintiodd William fersiwn arall a fu'n hongian yn Wynnstay yn wreiddiol gyda phortread Anton Mengs o Richard Wilson.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.