Eithin Gwyrdd, Cwm Gwyllog, Ffynnonofi, Sir Benfro
PERRY, Mike
Mae gwaith Mike Perry yn mynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol sy’n digwydd ar garreg ein drws ein hunain. Mae Mike, sy’n byw yn y gorllewin, wedi bod yn herio mytholeg ramantus parciau cenedlaethol fel ardaloedd o fywyd gwyllt a harddwch naturiol ers dechrau’r mileniwm. Mae’r gwaith hwn yn amlygu ymlediad y rhywogaeth hon ar draws tirweddau arfordirol Sir Benfro o ganlyniad i arferion ffermio anghynaladwy a phori parhaus gan ddefaid. Mae'r cyfansoddiad minimalaidd a haniaethol, lle mae'r llystyfiant gwyrdd yn eistedd yn erbyn cefnlen o awyr niwtral a difflach, yn creu cydadwaith rhwng ffurf a naratif.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.