Di-deitl
SOBOL, Jacob Aue
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Dw i wastad yn defnyddio'r camera mewn ffordd sy’n fwy na thynnu lluniau. Dw i'n ei ddefnyddio fel offeryn i greu agosatrwydd ac agosrwydd mewn ffordd farddonol ac uniongyrchol. Er gwaethaf ffurf diriaethol ffotograffiaeth yn ôl pob golwg, dw i’n ceisio amlygu haenau mewn pobl nad ydynt yn weladwy ar unwaith, ond sy'n dal i ffurfio pwy ydyn ni ac sy'n rhoi ystyr i'n bywydau. Dw i'n ceisio peidio â chanolbwyntio ar sut mae pethau'n edrych - ond sut maen nhw'n teimlo.
Mae rhai o'r bobl dw i'n tynnu lluniau ohonyn nhw yn dod yn ffrindiau i mi, eraill dw i'n rhannu dim ond eiliad fer gyda nhw. Mae'r lluniau’n rhywbeth sy'n tyfu o'r cyfarfyddiadau hyn. Pan fydda i’n tynnu llun dw i'n ceisio gweithio’n reddfol er mwyn cysylltu a chynnwys fy hun gyda'r lleoedd dw i’n ymweld â nhw a'r bobl dw i'n cwrdd â nhw. Mae cymryd cipluniau yn cefnogi'r teimlad o rywbeth anrhagweladwy a chwareus. Dw i'n credu pan mae lluniau yn fyrfyfyr a heb reswm iddynt, maen nhw'n dod yn fyw; maen nhw’n esblygu o ddangos i fodoli.
Yn y llun yma, dydy Miriam a'i thad-cu ddim yn siarad - ond dw i'n teimlo hyn ar unwaith. Y cyffyrddiad rhwng y croen llyfn ifanc a'r hen grychau. Mae Miriam a'i thad-cu yn gofalu am ei gilydd. Maen nhw'n gofalu am eu hatgofion a'r amser sydd ganddyn nhw gyda'i gilydd." — Jacob Aue Sobol
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.