Teulu yn perfformio defodau priodas mewn neuadd briodas gyhoeddus yn Tehran. Iran
ARTHUR, Olivia
Pan welais y llun hwn am y tro cyntaf, roeddwn i'n meddwl tybed pam mae'r briodferch yn edrych mor drist ac o dan straen, ac yna fe gofiais y traddodiadau ac i ba gyfeiriad roedd hi’n syllu. Mae hi'n edrych ar y Mollah sy'n darllen y cytundeb priodas iddi a ddylai hi ddim cytuno nes bod y Mollah yn ailadrodd y cytundeb dair gwaith. Os yw hi'n cytuno ar ôl y darlleniad cyntaf mae'n golygu ei bod hi ar frys ac nad yw'n gwybod ei gwerth. Fy mhryder i’r briodferch o ran y traddodiad hwn yw sut maen nhw'n cofio faint o weithiau mae wedi cael ei ddarllen. Os oes gan y briodferch chwiorydd, maen nhw'n dal darn o les uwchben pen y pâr nes bod y Mollah yn darllen y cytundeb. Mae ei modrybedd a’i mam yn torri torth siwgr uwch ben y pâr gan eu bod yn credu bod hynny’n dod â melyster i’w bywyd. Mae rhai yn credu mai hen draddodiad Zoroastraidd yw hwn.
Ysgrifennwyd y disgrifiad hwn gan Sahar Saki, artist a dylunydd rhyngwladol arobryn o Iran, sy’n byw yng Nghaerdydd.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.