Russell T Davies
FOGARTY, Julie
Mae Russell T. Davies yn un o sgriptwyr teledu mwyaf gwreiddiol Prydain. Fe’i ganed yn Abertawe a’i addysgu ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn hyfforddi yn y BBC a gweithio ym maes teledu plant i ddechrau. Symudodd Davies ymlaen i ysgrifennu ar gyfer oedolion, gan greu’r gyfres arloesol Queer as Folk ym 1999, sy’n seiliedig ar ei brofiadau fel dyn hoyw ym Manceinion. Mae ei waith diweddarach wedi parhau i archwilio syniadau yn ymwneud â rhywioldeb a chrefydd mewn amrywiaeth o leoliadau. Yn 2005, adfywiodd Davies gyfres eiconig y BBC, Doctor Who, a chael llawer o ganmoliaeth. Enwyd Davies yn berson hoyw mwyaf dylanwadol Prydain gan yr Independent on Sunday yn 2007. Dangosir ef yma yn eistedd yn y Tardis ar set Doctor Who.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.