Super Furry Animals, gefn llwyfan yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd (20 Tachwedd 2009)
KEYWORTH, Sophie
Band roc indie a ffurfiwyd yng Nghaerdydd ym 1993 yw’r Super Furry Animals, sy’n cynnwys (o’r chwith i’r dde) Guto Pryce, Dafydd Ieuan, Huw ‘Bunf’ Bunford, Cian Ciaran a Gruff Rhys. Llwyddodd eu cerddoriaeth arbrofol, a berfformiwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, i’w gosod ar flaen y gad yn y mudiad Cŵl Cymru a ddaeth i’r amlwg yn ystod y nawdegau. Yn 2009, cynhalion nhw ddigwyddiad yn eu tref enedigol yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd - adeilad a oedd unwaith yn ganolbwynt i’r fasnach lo fyd-eang. Dywedir mai yn yr adeilad hwn y cytunwyd ar y cytundeb miliwn o bunnoedd cyntaf erioed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Llwyddodd y ffotograffydd Sophie Keyworth i ddal y band yn ymlacio gefn llwyfan yn y lleoliad eiconig.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.