The Try that Beat the All Blacks
GILLETT, Frank
Mae’r gwaith celf hwn yn dangos y gêm brawf gyntaf erioed rhwng timau rygbi Cymru a Seland Newydd ar 16 Rhagfyr 1905. Cafodd y gêm ei chwarae ar Barc yr Arfau, Caerdydd o flaen torf o 40,000 wedi’i dyfarnu gan yr Albanwr, John Dallas. Yn y gwaith celf hwn, mae asgellwr Cymru, Teddy Morgan, yn plymio ar draws y llinell gais gan roi Cymru ar y blaen i’r Crysau Duon cyn hanner amser. Enillodd Cymru’r gêm 3-0.
Mae’r gêm hon yn arwyddocaol nid yn unig oherwydd y sgôr ond hefyd oherwydd bod tîm a chefnogwyr Cymru, dan arweiniad yr asgellwr Teddy Morgan, wedi canu’r anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau, mewn ymateb i glywed her Haka Seland Newydd. Hwn oedd y tro cyntaf i anthem genedlaethol gael ei chanu cyn gêm chwaraeon.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Manylion
Collection
Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem
NMW A 19809
Creu/Cynhyrchu
GILLETT, Frank
Dyddiad: 1905 ca
Derbyniad
Gift, 7/2/1925
Given by The Western Mail
Techneg
Chalk pastel on paper
Drawings and watercolours
Fine Art - works on paper
Deunydd
Chalk pastel
Ingres paper
Lleoliad
In store - verified by BM
Tags
Rhannu
Mwy fel hyn
Amgueddfa Cymru
BARKER of Bath, Thomas
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
RICHARDS, Ceri Giraldus
© Ystâd Ceri Richards. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
JOHN, Augustus
© Ystâd Augustus John. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
TREVELYAN, Julian
© Ystâd Julian Trevelyan. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru