Bokani, a Pigmy chief
Penddelw prin yw hwn gan y cerflunydd o Gymru William Goscombe John. Roedd Bokani yn un o chwe pygmi o'r Congo a gludwyd i Ewrop ym 1905. Roedd y grŵp yn destun chwilfrydedd mawr pan gawsant eu dangos i'r cyhoedd mewn neuaddau gorlawn mewn trefi a dinasoedd ledeld y DU, gan gynnwys Cymru. Er eu bod yn ymddangos yn bennaf mewn newuaddau cyngerdd, cawsant eu dangos hefyd ym Mhalas Buckingham, a hyd yn oed mewn sŵ. Mae penddelw Bokani a gweithiau eraill wedi bod yn rhan o ymyriad gan broject Treftadaeth Ifanc Tynnu'r Llwch. Wedi cyfres o weithdai, roedd y cyfrannwyr yn teimlo bod y bobl yn y gweithiau yma, fel Bokani, yn cael eu gweld fel gwrthrychau oedd yn yn cael sylw oherwydd eu cyswllt â'r Ymerodraeth, trefedigaethu neu William Goscombe John yn unig. Roedden nhw am amlygur unigolion yn y gweithiau drwy eu straeon a'i profiadau.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Manylion
Casgliadau
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.