I Gofio'r Swistir
SPENCER, Stanley
Mae'n debyg mai Stanley Spencer oedd yr arlunydd ffigyraidd gorau a weithiai ym Mhrydain yn y 1930au. Comisiynwyd y triptych hwn gan Syr Edward Beddington-Behrens, economegydd amlwg ac un hael ei nawdd i gelfyddyd fodern. Credai 'y gallai fod yn ysbrydoliaeth i weld bywyd yn y mynyddoedd lle mae crefydd yn chwarae rhan mor bwysig ym mywyd y bobl' ac felly, ym 1933, gwahoddodd Spencer i aros gydag ef yn nyffryn mynyddig Saas, yn Valais yn ne'r Swistir. Tynnodd Spencer frasluniau o bobl, gwisgoedd, capeli a chysegrfeydd lliwgar ar ochrau'r ffyrdd a'u defnyddio ar gyfer y gwaith mawr hwn pan ddychwelodd i Loegr. Ysgrifennodd Spencer: 'Pan welais y bobl gyffredin yn sefyll ar y grisiau, roeddent fel cofebau o'r Swistir, pob un ar ei bedestal ei hunan. Ac felly teimlaf fod pob panel yn cynrychioli rhyw agwedd ar naws y Swistir'. Yn ei farn ef: 'Mae'n well o lawer na phe byddwn wedi'i baentio yn y fan a'r lle oherwydd os ydwyf yn teimlo'r peth yn ddigon cryf i'w baentio o'm cof, mae'n rhaid iddo fyw'. Hunan-bortread o'r arlunydd yw'r dyn â'r dwylo mewn ystum gweddi, y pedwerydd o'r chwith ymhlith y bobl sy'n sefyll ar y dde yn y panel canol.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Manylion
Casgliadau
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.