The Sky in a Room
Perfformiad un lleoliad yw The Sky in a Room gan yr artist Ragnar Kjartansson, a lwyfannwyd am y tro cyntaf yn 2018. Symudwyd unrhyw luniau, gwrthrychau a chelfi o oriel Celf ym Mhrydain 1700 – 1800. Yng nghanol yr oriel wag eisteddai perfformiwr unig yn chwarae’r organ siambr a gomisiynwyd yn wreiddiol ym 1774 gan un o noddwyr celfyddyol pennaf Cymru, Syr Watkins William-Wynn. Drwy’r dydd, byddai’r organydd yn eistedd a chanu Il Cielo In Una Stanza (Yr Awyr mewn Ystafell) cân ramantus Eidalaidd enwog a gyfansoddwyd ym 1959 gan Gino Paoli. Mae’r geiriau yn sôn am bŵer cariad i droi waliau’n fforestydd a nenfydau yn awyr. Yn yr un modd mae gwaith Kjartansson yn gweddnewid yr Amgueddfa, gan bylu gofod ac amser i gyfeiliant llesmeriol, ailadroddus y gerddoriaeth.
Ganwyd Ragnar Kjartansson yng Ngwlad yr Iâ ym 1976. Mae perfformiadau byw a cherddoriaeth yn greiddiol i’w waith, sydd hefyd yn cynnwys ffilm, gosodwaith a phaentio. Gwelwyd ei osodwaith ffilm Yr Ymwelwyr yn Artes Mundi 6 ac yn 2015 enillod Wobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams. Comisiwn yw The Sky in the Room gan Artes Mundi ac Amgueddfa Cymru. Dyma’r perfformiad cyntaf i gael ei gaffael i gasgliad yr Amgueddfa, a gwireddwyd hyn diolch i gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Derek Williams a’r Gronfa Gelf.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.